Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 8 Mehefin 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
13.34 - 15.47 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Melding AC (Cadeirydd) Alun Davies AC Suzy Davies AC William Powell AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Ken Skates AC, Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Angharad Huws, Llywodraeth Cymru Eifiona Williams, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
P Gareth Williams (Clerc) Naomi Stocks (Ail Glerc) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Matthew Richards (Cynghorydd Cyfreithiol) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Stephen Boyce (Ymchwilydd) Alys Thomas (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cafwyd ymddiheuriadau gan yr Arglwydd Elis-Thomas AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei ran.
Diolchodd y Pwyllgor i Simon Thomas AC am ei gyfraniad dros y pedair blynedd diwethaf.
2 Tystiolaeth mewn perthynas â Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth mewn perthynas â Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) gan Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth.
3 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
3.1 CLA535 - Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2015
3.2 CLA536 - Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015
3.3 CLA537 - Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2015
Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt.
4 Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
4.1 CLA538 - Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Gofal) (Cymru) 2015
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad.
5 Papurau i'w nodi
Nododd y Pwyllgor y papurau.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
Cytunodd y Pwyllgor i gynnal gweddill y cyfarfod mewn sesiwn breifat i ystyried y canlynol:
6.1 Adroddiad drafft ar y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru)
6.2 Adroddiad drafft ar y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru)
6.3 Adroddiad drafft: Ymchwiliad i ddeddfu yn y Pedwerydd Cynulliad